Lluniau a chreiriau David John Coslett
Lluniau a chreiriau David John Coslett
Disgrifiadau
Ganwyd David John Coslett yn Abertawe ym 1876, ac fe ymunodd â'r South Wales Borderers ar 17 Medi 1896, pan y'i disgrifiwyd fel 'labrwr'. Yn ôl cofnod ei wasanaeth fe dreuliodd chwe blynedd yn India, cyn ymadael â'r fyddin ym 1909. Pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr ym mis Awst 1914 derbyniodd wŷs i ail-ymuno â'i gatrawd, ac fe deithiodd gyda nhw i Ffrainc ar 29 Tachwedd 1914. Cafodd ei anafu ym Mrwydr Loos (Medi / Hydref 1915), gan golli ei ddwy goes oherwydd gynnau peiriant y gelyn. Bu farw o'i anafiadau yn St Omer ar 3 Tachwedd 1915.
Ffynhonnell allanol:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment