Skip to main content

Oliver Hughes yn iwnifform y llynges

Disgrifiadau

Ganwyd Oliver Hughes yn Llanelli ym 1896 a phan ddechreuodd y rhyfel fe ymunodd â'r fyddin. Yna, yn ôl y chwedl deuluol, cyn i'r milwyr deithio i Ffrainc fe gafodd gyfle i ymuno â'r Llynges, a dyna a wnaeth. Roedd yn bresennol ym mrwydr forwrol Jutland - a dywed ei wraig iddo guddio dan ei wely am dair wythnos pan ddychwelodd adre ar ôl y frwydr. Pan ddaeth yr amser iddo ail-ymuno â'i long, cymeroddy trên cyn belled â Birmingham cyn troi nôl a dychwelyd i Lanelli. Arhosodd yno nes i'r heddlu milwrol ymddangos yn ei gartref a sicrhau ei fod yn ail-ymuno â'r criw. Gwasanaethodd yn y Llynges tan fis Gorffennaf 1919.

Owner:
Anon
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00191
Eitem wedi’i llwytho:
3/3/2011
Date originally created:
1914-1918
Gwelediadau:
857
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment