Llyfryn Dadfyddino Albert Rees Williams
Llyfryn Dadfyddino Albert Rees Williams
Disgrifiadau
Ganwyd Albert Rees Williams ym Mhontarddulais ar 14 Mehefin 1895, ac roedd yn löwr cyn ymuno â'r Welsh Regiment. Mae'n debyg iddo gael ei anafu ar y Somme ym 1916 - y stori yw bod siel a laddodd ddau o'i gyfeillion wedi anafu ei ben-glin. Fe dderbyniodd y llyfryn hwn pan gafodd ei ollwng gydag anrhydedd o'r fyddin ym mis Hydref 1917: mae'n cynnwys geirda a manylion am ei wasanaeth yn y fyddin.
Ffynhonnell allanol:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment