John William Evans, Welsh Regiment
Disgrifiadau
Roedd John William Evans (a adwaenir fel Jack) yn byw yn wreiddiol yn Nghnwcyrosfa, Bethania, Sir Aberteifi. Fe ymunodd â'r Welsh Regiment ym mis Awst 1914 ac fe'i danfonwyd yn gyntaf i Ffrainc gyda'r 2ail Welsh Regt yn rhan o'r 112 Railway Company. Yna fe ddaeth nôl i Loegr cyn hwylio ym mis Mehefin 1915 gyda'r Mediterranean Expeditionary Force oedd ar ei ffordd i'r Dardanelles (Gallipoli). Cafodd ei anafu'n ddifrifol yn dilyn y glaniad ar Fae Suvla (6/7 Awst 1915) ac roedd yn Nhir Neb am dridiau. Erbyn 16 Awst yr oedd yn yr ysbyty yn Alexandria, ac yna fe'i danfonwyd nôl i Ysbyty'r King George, Llundain.
Yno fe gychwynnodd ei garwriaeth â'i wraig, Ann Jones, a ddaeth i'r ysbyty ar ôl darllen bod ei hen gyfaill ysgol yno. Ar ôl y rhyfel fe setlodd Jack a'i wraig ym Merthyr Tydfil, lle bu farw yn 87 oed ym 1972.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment