Skip to main content

Ffotograff o Preifat Robert Charles Williams gyda'i deulu, tua 1915 [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Ffotograff o Preifat Charles Williams gyda'i wraig Ann Williams (1875-1951) a'i ferch Mary Margaret Jackson (Williams gynt). Ganed Mary ar 7 Mawrth 1914 a bu farw 3 Chwefror 2004. Roedd gan Mary dau frawd, Henry a Robert (Bobby). Anfonwyd y llun hwn at un o'r brodyr yn ôl pob tebyg. Ganed Robert yng Nghapel Curig ym 1886 ac fe briododd Ann Williams ym 1913 yn 23 oed. Roeddent yn byw yng Nghil Melyn, Warden Street, Llanberis, Sir Gaernarfon. Gwasanaethodd Preifat 345654 Robert Charles Williams, 24 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gafodd ei saethu yn ei ben wrth iddo gerdded i gael brecwast ar 16 Gorffennaf 1917. Bu farw o'i anafiadau. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Ryfel Deir El Belah - Bedd D.24.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ95530
Eitem wedi’i llwytho:
3/3/2011
Date originally created:
1915
Gwelediadau:
818
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment