Skip to main content

Chwiban Corporal Albert John Webb's, 1914

Disgrifiadau

Ganed Corporal Albert John Webb yn King Street, Blaenafon ar 8 Mai 1884. Ym 1890 symudodd y teulu i Bontnewydd, Pont-y-pŵl. Ym 1902 gwasanaethodd Albert gyda'r Fyddin Diriogaethol ac ym 1910 enillodd gasgen o gwrw mewn cystadleuaeth saethu. Roedd Albert yn löwr cyn ymuno ag Ail Gatrawd Sir Fynwy ar 1 Ebrill 1908 yn 24 oed. Anfonwyd Albert i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn rhan o Fyddin Alldeithiol Prydain. Rhyddhawyd Corporal Albert John Webb ar 26 Tachwedd 1915 gan nad oedd yn ddigon iach i wasanaethu. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Milwrol Edmonton, Llundain adfer cyn dychwelyd at ei deulu ym Mhont-y-pŵl. Priododd Albert Lily Atkins ar 21 Awst 1911 ac fe wnaethant ymgartrefu yn 25, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl. Mae siop Tesco nawr ar safle Lower Bridge Street. Yn dilyn ei ryddhad o'r fyddin fe ddaeth ynm stiward Clwb Dynion uwchlaw banc Lloyd's ym Mhont-y-pŵl. Ef oedd trysorydd Clwb Cyn-filwyr y Rhyfel Mawr Pont-y-pŵl a ffurfiwyd ar 15 Mawrth 1918 yn Neuadd St James' Hall, Pont-y-pŵl. Symudodd Albert a Lily i 22, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl lle cawsant pedwar o blant four children. Bu farw Albert ar 28 Chwefror 1958 yn 73 oed.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ94721
Eitem wedi’i llwytho:
3/3/2011
Date originally created:
1914
Gwelediadau:
752
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment