Skip to main content

Y Fedal Filwrol a wobrwywyd i Cloddiwr Trevor Smith, 23 Mawrth 1916 [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Enillodd Trevor Smith y Fedal Filwrol am ddewrder yn y frwydr ar 23 Mawrth 1916. Roedd yn un o 14 o blant Gaius a Harriett Smith, 2, Railway Terrace, Blaenafon. Gwasanaethodd Cloddiwr Trevor Henry Smith gyda Chwmni Twnnelu 170fed, y Peirianwyr Brenhinol. Bu farw yn 33 oed ar 23 Tachwedd 1917. Cafodd ei gladdu ym Estyniad Mynwent Gymunedol Noeux-Les-Mines, Pas de Calais, Ffrainc. Mae'r fynwent yn cynnwys beddau 304 o drigolion y Gymanwlad o'r Rhyfel Byd Cyntaf a 12 o feddau rhyfel Almaenig. Adroddwyd hanes trasig marwolaeth Trevor yn yr erthygl isod ar 14 Rhagfyr 1917. Mae Mrs Gulliford of 2, Railway Terrace, Blaenafon wedi cael y newyddion trist y bu farw ei trydydd mab, Cloddiwr Trevor Smith, M.M, R.E.,79728, o'i anafiadau ar 23 Tachwedd 1917. Ar 24 Tachwedd derbyniwyd llythyr oddi wrth gaplan gorsaf glirio cleifion gan y teulu, a adroddodd, wedi iddo estyn ei gydymdeimlad "Claddais ef heddiw ym mynwent Noux Les Mines ac fe'ch cofiais yn fy ngweddïau wrth ei fedd.Roedd nifer o'i gyd-filwyr a'i swyddogion yn bresennol. Mae swyddog o Gwmni Cloddiwr Smith yn datgan ei fod wedi'i anafu ar 16 Tachwedd. Ychwanegodd: "Mae'ch mab wedi gweithio i mi am y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf bob amser wedi meddwl amdano fel gweithiwr arbennig o dda a oedd hefyd yn gwirfoddoli am waith. Fe allaf eich sicrhau fy mod yn ei fethu'n fawr, ac mae swyddogion a dynion eraill y Cwmni'n cydymdeimlo gyda chi yn eich colled." Mae Mrs Gulliford hefyd wedi derbyn llythyr llawn cydymdeimlad gan y Swyddog Llywodraethol sy'n talu teyrnged i ddewrder a chraffter Cloddiwr Smith. Roedd y Cwmni'n ei weld yn ffrind a chydymaith, ac mae'r Swyddog Llywodraethiol yn gwneud y sylw canlynol. "Mae'n arbennig o ddrwg ar filwr a enillodd y Fedal Filwrol ar 23 Mawrth 1916, a'i anafu ar 23 Mai 1916, i gael ei gymryd wedi iddo wneud gwaith cystal a gwaith ffyddlon i'w wlad." Enillodd Cloddiwr Smith y Fedal Filwrol am ei waith cloddio. Cyn ymuno â'r Colours roedd yn gweithio yng ngllfa Big Pit, Blaenafon. Roedd yn adnabyddus ac yn fawr ei barch yn yr ardal ac mae'r newyddion am ei farwolaeth yn drist iawn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ94712
Eitem wedi’i llwytho:
3/3/2011
Date originally created:
1916
Gwelediadau:
971
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment