Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed Corporal Albert John Webb yn King Street, Blaenafon ar 8 Mai 1884. Ym 1890 symudodd y teulu i Bontnewydd, Pont-y-pŵl. Ym 1902 gwasanaethodd Albert gyda'r Fyddin Diriogaethol ac ym 1910 enillodd casgen o gwrw mewn cystadleuaeth saethu. Roedd Albert yn löwr cyn ymuno ag Ail Gatrawd Sir Fynwy ar 1 Ebrill 1908 yn 24 oed. Anfonwyd Albert i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin fel rhan o'r Fyddin Alldeithiol Brydeinig. Diswyddwyd Corporal Albert John Webb ar 26 Tachwedd 1915 gan ei fod yn anystwyth i wneud gwasanaeth milwrol pellach. Priododd Albert Lily Atkins ar 21 Awst 1911 ac fe wnaethant ymgartrefu yn 25, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl. Yn dilyn ei ryddhad o'r fyddin fe ddaeth yn stiward mewn clwb dynion uwchlaw banc Lloyd's ym Mhont-y-pŵl. Symudodd Albert a Lily i 22, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl lle cawsant pedwar o blant. Bu farw Albert ar 28 Chwefror 1958 yn 73 oed.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw