Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad


Trawsgrifiad:








Fy enw i yw Pamela Partridge a chefais fy ngeni ym Medwas ym 1946. Mewn gwirionedd cefais fy ngeni yn ystafell ffrynt cartref fy mam-gu a 'nhad-cu ar ochr teulu fy nhad. Tyfais i fyny ym Medwas. Fe es i Ysgol Bedwas. Roedd fy mam-gu a 'nhad-cu ar ochr teulu fy mam yn byw yn Nhretomas ac felly roedd mynd i'w gweld yn golygu llawer o gerdded o un pentref i'r llall, o Fedwas i Dretomas. Yn ystod y teithiau gallech chi weld Neuadd y Gweithwyr. Roedd yn adeilad mawreddog; tri, pedwar llawr. Doedden ni erioed wedi gweld y fath beth. Roedd mynd i mewn i Neuadd y Gweithwyr ac edrych allan drwy'r ffenestri yn drawiadol iawn.

Roedd fy nhad-cu yn gynghorydd lleol ac yn ddyn eithaf uchel ei barch. Roedd yn gynghorydd am 40 mlynedd ac yn rhan fawr o godi Neuadd y Gweithwyr. Prif nodwedd Neuadd y Gweithwyr oedd y sinema, ac yn wir fy atgof cynharaf yw mam a 'nhad yn mynd â fi i'r sinema. O'r hyn rwy'n ei gofio am y sinema, roedd hi bob amser o dan ei sang. Roedd bob amser yn llawn. Roedd pawb yn y cyffiniau yn mynd i'r sinema. Dyna oedd ein unig ddifyrrwch gan nad oedd teledu. Roedd yn flaenoriaeth o ran y gymuned a chymysgu'n gymdeithasol yn yr ardal. Fy ewythr Reg: roedd ef yn Neuadd y Gweithwyr drwy'r amser, yn rhedeg o gwmpas, yn sicrhau bod aelodau'r staff yno. Pe bai unrhyw un o'r aelodau staff yn sâl, ei gyfrifoldeb ef oedd cael rhywun yn eu lle.

Rwy'n gwybod ystafell filiards ar y llawr gwaelod, ond doeddwn i ddim yn mynd yno llawer. Roedd neuadd ddawns, a gaeodd yn y 50au ac yna daeth yn ystafell bwyllgor ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer gwahanol weithgareddau. Y sinema oedd y lle yr oedden nhw'n arfer mynd i glywed y newyddion diweddaraf ac, rwy'n credu, yn enwedig yn ystod y rhyfel hefyd, cyn i mi gael fy ngeni. Yn ystod y 50au byddwn i'n mynd i'r sinema gyda fy rhieni. Fe awn i gyda fy mam-gu hefyd ac mi roedd hi'n mynd yna'n eithaf aml.

Wrth i mi fynd yn hŷn, pan oeddwn yn bymtheg, un ar bymtheg oed, fe wnes i gyfarfod â 'nghariad, sef fy ngŵr nawr. Fe es i mas 'dag e am y tro cyntaf i'r sinema ac roedd yna dywyswraig yn ein harwain i'n seddi, a dyna oedd yr arfer bryd hynny gan nad oedd golau ar y grisiau. Er mawr arswyd i mi, sylweddolais rai wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach mai'r fenyw wnaeth ein tywys i'n seddau oedd fy narpar fam-yng-nghyfraith. Roeddwn wir wedi dychryn pan sylweddolais. Ta beth, buon ni'n caru am bum mlynedd, fe wnaethom ddyweddïo wedi tair blynedd ac fe briodon ni bum mlynedd yn ddiweddarach.

Rwy'n dal yn mynd i Neuadd y Gweithwyr. Maen nhw yn dal i gynnal pantomeim ac ati yno. Ond mae'r newidiadau i'r adeilad yn creu cryn ofid ac rwy'n meddwl tybed sut fyddai fy nhad-cu, fy ewythr neu hyd yn oed fy mam-yng-nghyfraith yn teimlo pe byddent yn ei weld nawr. Mae graffiti drosto i gyd. Mae ffenestri wedi torri, ond eto yr un adeilad mawreddog yw e erioed. Rwy'n gobeithio y gallent ei adnewyddu i hyd yn oed ychydig o'i ysblander yn y dyddiau a fu, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl ifanc heddiw yn cael yr un pleser ag y cawsom ni ac yn trin yr adeilad â'r un parch ag yr oeddem ni.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw