Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ymfyddinodd milwyr tiriogaethol Sir Frycheiniog ym mis Awst 1914 ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Anfonwyd y bataliwn i Mhow yn yr India fel byddin garsiwn. Roedd Clwb Criced a Phêl-droed Calcutta wedi dechrau chwarae rygbi ym 1872 ac fe gyflwynodd y clwb Gwpan Her ar gyfer timau rybgi yn yr India. Enillwyd y gwpan ym 1917 gan y 'Brecknocks XV', a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rygbi clwb o Gymru. Y gwpan hon yw'r 'Cwpan Calcutta' sy'n dal i gael ei chyflwyno'n flynyddol i enillwyr y gêm ryngwladol rhwng Lloegr a'r Alban.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw