Skip to main content

Band Merched Bryntaf, 1934

Disgrifiadau

Roedd traddodiad cryf o fandiau jas yn Aberfan a Merthyr Vale a'r band enwocaf oll oedd yr 'Aberfan Coons Band'. Roedd y band jas hwn yn cynnwys glowyr Merthyr Vale ac yn aml nid oedd angen iddynt dduo eu hwynebau gyda'r cwyr esgidiau angenrheidiol.
Enillodd y band gystadleuaeth genedlaethol bwysig yn Llundain a chludwyd y cwpan yn ôl i Gymru'n fuddugoliaethus.

Yn ôl adroddiad yn y Merthyr Express ym mis Mehefin 1934, daeth torf o tua 5,000 ynghyd yn Grove Field i weld y Cwpan Sialens 500 guinea, a enillodd yr Aberafan Coons yng Nghyngerdd Band Jas Cenedlaethol yn Crystal Palace yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd B. M. Thomas, arweinydd y band. Enillodd yr Aberfan Coons y teitl mawreddog 'Britain's premier Jazz Band'. Pan fu'r band yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Aberfan yn eu gwisgoedd roeddynt yn arddangos 12 cwpan a tharian yr oeddynt wedi'u hennill mewn cystadlaethau eraill. Ffurfiwyd band arall yn ddiweddarach o'r enw y Merthyr Vale Toy Soldiers.

Ffynhonnell: Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful (2001) "Valley lives, book 3: music and musicians of the Merthyr Tydfil Valley."

Owner:
Merthyr Tydfil County Borough Council, Central Library
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Ganolo
Copyright Details:
Llyfrgell Ganolog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2011
Publisher Ref:
GTJ03066
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2011
Date originally created:
6/1934
Gwelediadau:
1092
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment