Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r llun hwn yn dangos dyddiau cynnar y drafnidiaeth fodur er gwelwn mai ychydig o'r cerbydau hyn oedd i gael ac felly nid oedd tagfeydd traffig yn broblem yn yr 1920au. Cyn y cyfnod hwn dim ond mulod a cheffylau fyddai'n aros y tu allan i westai yn aros am y gyrwyr, roedd hyn yn arfer cyffredin a dyna darddiad y dywediad, wedi lluniaeth, 'too often mules would restart their journey like gentlemen and the drivers like mules'.

Enwyd y gwesty, sy'n dyddio o'r 1886, ar ôl enw gwreiddiol yr ardal, Bontnewydd. Yn yr un modd â Threharris, datblygodd Trelewis ar ddiwedd yr 19eg ganrif yn gymuned fechan o deuluoedd glowyr a oedd yn dibynnu ar godi glo. Roedd y llinell gyswllt bwysicaf yn arwain at y ffynhonnell gyflogaeth sef y Lofa Glo Ager cyfagos. Rhoddwyd hwb i'r cysylltiadau cyfathrebu, o ran ffyrdd a phontydd, pan agorwyd glofeydd newydd yn Nhaf Merthyr ym 1926 a Drifft Trelewis ym 1954.

Ffynhonnell: Llyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful (1991), 'Valley Views, Books 2: transport.'

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw