Ffotograff o fedd Preifat 345654 Robert Charles Williams, Palesteina
Ffotograff o fedd Preifat 345654 Robert Charles Williams, Palesteina
Disgrifiadau
Ffotograff o fedd Preifat Robert Charles Williams ym Mhalesteina. Ganed Robert yng Nghapel Curig ym 1886 ac fe briododd Ann Williams ym 1913 yn 23 oed. Roeddent yn byw yng Nghil Melyn, Warden Street, Llanberis, Sir Gaernarfon. Gwasanaethodd Preifat 345654 Robert Charles Williams, 24 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gafodd ei saethu yn ei ben wrth iddo gerdded i gael brecwast ar 16 Gorffennaf 1917. Bu farw o'i anafiadau. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Ryfel Deir El Belah - Bedd D.24.
Ffynhonnell allanol:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment