Llythyr gan Pierce Ll. Thomas at Archifdy'r Milwyr Traed, 19 Mawrth 1919
Llythyr gan Pierce Ll. Thomas at Archifdy'r Milwyr Traed, 19 Mawrth 1919
Disgrifiadau
Llythyr gan Pierce Ll. Thomas ar ran Ann Williams, gwraig Preifat Robert Charles Williams yn gofyn am lun o fedd Robert ym Mhalesteina. Ganed Robert yng Nghapel Curig ym 1886 ac fe briododd Ann Williams ym 1913 yn 23 oed. Roeddent yn byw yng Nghil Melyn, Warden Street, Llanberis, Sir Gaernarfon. Gwasanaethodd Preifat 345654 Robert Charles Williams, 24 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gafodd ei saethu yn ei ben wrth iddo gerdded i gael brecwast ar 16 Gorffennaf 1917. Bu farw o'i anafiadau. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Ryfel Deir El Belah - Bedd D.24.
Ffynhonnell allanol:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment