Llythyr oddi wrth Gomisiwn Ymerodrol Beddau Rhyfel, 5 Mehefin 1924
Disgrifiadau
Llythyr oddi wrth Gomisiwn Ymerodrol Beddau Rhyfel yn gofyn am 7/10 i dalu am yr arysgrif 'Yr hyn a allodd hwn, Efe a'i gwnaeth' (Mark 14: 8 - She hath done what she could) ar fedd Preifat Robert Charles Williams. Ganed Robert yng Nghapel Curig ym 1886 a phriododd Ann Williams ym 1913 yn 23 oed. Roeddent yn byw yng Nghil Melyn, Warden Street, Llanberis, Sir Gaernarfon. Gwasanaethodd Preifat 345654 Robert Charles Williams, 24 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gafodd ei saethu yn ei ben wrth iddo gerdded i gael brecwast ar 16 Gorffennaf 1917. Bu farw o'i anafiadau. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Ryfel Deir El Belah - Bedd D.24.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment