Skip to main content

Dogfen y Comisiwn Ymerodrol Beddi Rhyfel , 6 Chwefror 1926

Disgrifiadau

Dogfen swyddogol oddi wrth Gomisiwn Ymerodrol Beddau Rhyfel yn gofyn am daliad o 13 swllt ac wyth ceiniog am ysgrif bersonol ar fedd Sersiant Charles Butler. Arysgrif: "In a Hero's Grave you lie, But in our hearts, You never die, R.I.P." Roedd Charles Butler o dras Gwyddelig, a symudodd i Dredegar cyn y Rhyfel Byd Cyntaf lle cyfarfu a'i wraig Mary McCarthy. Cafodd Charles a Mary bedwar o blant a symud i Sir Fynwy lle bu Charles yn gweithio i gwmni peirianyddol. Yna fe ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol ac fe gafodd ei ladd ar 4 Hydref 1917 wrth iddo gloddio am ddŵr yn Nhir Neb gerllaw Ieper. Gwobrwywyd Charles â'r Fedal Ymddygiad Rhagorol am ei wasanaeth ac fe'i claddwyd ym Mynwent Hooge Crater, 4 cilometr i'r dwyrain o Ieper, Gwlad Belg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ94686
Eitem wedi’i llwytho:
16/2/2011
Date originally created:
1926
Gwelediadau:
918
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment