Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'n debygol fod y sarsiantiaid a swyddogion hyn yn aelodau o Drên 38fed Adran Corfflu'r Fyddin Gymreig. Yr unig filwr yn y llun a wyddys amdano yw Sgt John Rees Owen sy'n sefyll ar y dde yn y rhes gefn. Ganed Owen yng Nghwm Rhondda ym 1884 a symudodd i Aberdâr pan oedd yn blentyn. Yno cafodd ei ardystio ar 20 Ma 1902 ac ymunodd âr Gwŷr Meirch. Yn ddiweddarach aeth i'r Hwsariaid Brenhinol (14fed) ac ymunodd â'i fintai yn y Curragh, Iwerddon, ar 31 Mai 1902. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymrestrodd yn Aberdâr ar 21 Medi 1915. Dechreuodd wasanaethu gyda 38fed Adran (T4/109280) ar 31 Mai 1915 ac roedd yn Ffrainc rhwng 4 Rhagfyr 1915 ac 26 Hydref 1917. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y trên yn cario cyflenwadau i'r Adran yn ystod yr ymladd yn Mametz Wood, Somme, ym mis Gorffennaf 1916 a Pilckem Ridgear ddiwedd Gorffennaf 1917. Aeth Owen at yr Ambiwlans Maes gyda'r ffliw/emffysema ar 27 Awst 1917 ac fe gafodd ei anfon i Loegr yn glaf ar ddiwedd Hydref 1917. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ar 3 Rhagfyr 1918 a'i drosglwyddo i'r Fyddin wrth Gefn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw