Skip to main content

Gwahoddiad i dderbyn medal, 6 Chwefror 1919

Disgrifiadau

Llythyr yn gwahodd Corporal Albert John Webb i dderbyn ei fedal yn Neuadd y Dref, Casnewydd ar Ddydd Iau, 13 Chwefror 1919. Ganed Corporal Albert John Webb yn King Street, Blaenafon ar 8 Mai 1884. Ym 1890 symudodd y teulu i Bontnewydd, Pont-y-pŵl. Ym 1902 gwasanaethodd Albert gyda'r Fyddin Diriogaethol ac ym 1910 enillodd casgen o gwrw mewn cystadleuaeth saethu. Roedd Albert yn löwr cyn ymuno ag Ail Gatrawd Sir Fynwy ar 1 Ebrill 1908 yn 24 oed. Anfonwyd Albert i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin fel rhan o'r Fyddin Alldeithiol Brydeinig. Diswyddwyd Corporal Albert John Webb ar 26 Tachwedd 1915 gan ei fod yn anystwyth i wneud gwasanaeth milwrol pellach. Priododd Albert Lily Atkins ar 21 Awst 1911 ac fe wnaethant ymgartrefu yn 25, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl. Yn dilyn ei ryddhad o'r fyddin fe ddaeth yn stiward mewn clwb dynion uwchlaw banc Lloyd's ym Mhont-y-pŵl. Symudodd Albert a Lily i 22, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl lle cawsant pedwar o blant. Bu farw Albert ar 28 Chwefror 1958 yn 73 oed.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ94683
Eitem wedi’i llwytho:
14/2/2011
Date originally created:
1919
Gwelediadau:
878
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment