Skip to main content

Ffotograff o Gorporal Albert Webb a'i gyd-filwyr yn Ysbyty Milwrol Edmonton, Llundain, 1915

Disgrifiadau

Ganed Corporal Albert John Webb, sy'n eistedd yn y rhes ganol, y trydydd o'r dde, yn King Street, Blaenafon ar 8 Mai 1884. Ym 1890 symudodd y teulu i Bontnewydd, Pont-y-pŵl. Ym 1902 gwasanaethodd Albert gyda'r Fyddin Diriogaethol ac ym 1910 enillodd casgen o gwrw mewn cystadleuaeth saethu. Roedd Albert yn löwr cyn ymuno agAil Gatrawd Sir Fynwy ar 1 Ebrill 1908 yn 24 oed. Anfonwyd Albert i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin fel rhan o'r Fyddin Alldeithiol Brydeinig. Dogfennwyd ei brofiadau, ynghyd â phrofiadau Sarsiant W. (Blackwood) Jones a Phreifat E. A. Watts' ym mis Ionawr 1975 gan y wasg leol. Disgrifiodd y tri sut y rhoddwydwyd copi o'r 'free press' ar reiffl a'i ddefnyddio fel baner gadoediad yn y ffosydd ar Ddiwrnod Nadolig. Pan stopiodd y saethu fe gyfeillachodd y Prydeinwyr a'r Almaenwyr yn Nhir Neb. "There they were on top of their trench, waving for us to come and asking for cigarettes so Sergeant Jones and another of the boys got up and went over with cigarettes and a few tins of jam to give the poor beggars. They were the 7th Bavarian Regiment and looked as though they had just come from Pirpentwys [Colliery]. But their officers would not let them come over to us, so we had to chuck the fags and stuff to them. After that we had a pleasant time for a few hours while the Germans were out burying their dead, as they had had a dose of shrapnel the night before. But I am sorry to say some of them are not sports. As they shot [our mate] after he had taken them cigarettes a bit further down the line, and it made us a bit savage. But I think they are afraid of us as all aggression is on our side, and it will not be long before they say goodbye to Belgium." Diswyddwyd Corporal Albert John Webb ar 26 Tachwedd 1915 gan ei fod yn anystwyth i wneud gwasanaeth milwrol pellach. Priododd Albert Lily Atkins ar 21 Awst 1911 ac fe wnaethant ymgartrefu yn 25, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl. Mae siop Tesco nawr ar safle Lower Bridge Street. Yn dilyn ei ryddhad o'r fyddin fe ddaeth yn stiward mewn clwb dynion uwchlaw banc Lloyd's ym Mhont-y-pŵl. Symudodd Albert a Lily i 22, Lower Bridge Street, Pont-y-pŵl lle cawsant pedwar o blant. Bu farw Albert ar 28 Chwefror 1958 yn 73 oed.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ94674
Eitem wedi’i llwytho:
14/2/2011
Date originally created:
1915
Gwelediadau:
1470
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment