Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ffotograff o'r dyrfa a ddaeth ynghyd ym Mhorthaethwy ar 19 Gorffennaf 1919 i nodi Diwrnod o Heddwch. Fel y gwelir, roedd nifer o aelodau o'r Lluoedd Arfog yn bresennol yn y cyfarfod. Cynhaliwyd Gwasanaeth o Ddiolch dan arweiniad y rheithor a'r Parchedig J. Charles Williams - fe'i gwelir yma yn annerch y dorf yn ei fantell ddu. Ysgrifennwyd y nodyn canlynol ar gefn y ffotograff:
'It was a most impressive & moving occasion as the people believed they had emerged triumphantly from a "war that was to end war"'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw