Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed yr arlunydd Cedric Morris (1889-1982), yn ardal y Sgeti, Abertawe. Roedd yn ddisgynydd i John Morris, perchennog gwaith copr Treforus. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn y Gŵyr a chafodd ei addysgu yn Ysgol Charterhouse. Aeth i Baris ym 1914 a dychwelodd yno wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf i astudio celf. Teithiodd ledled Ewrop a bu'n byw yng Nghernyw a Llundain. Daeth i Gymru i baentio ym 1928 ond cyn hir trôdd ei sylw at gynorthwyo'r di-waith yn rhai o gymunedau dirwasgedig y cymoedd. Bu'n weithgar iawn yn y cyswllt hwn gyda threflan addysg Dowlais. Ef hefyd oedd un o brif drefnwyr Arddangosfa Celfyddyd Gyfoes Cymru a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1935. Symudodd Morris yn ddiweddarach i East Anglia gyda'i gyfaill Arthur Lett-Haines, lle sefydlodd y ddau ysgol gelf ym 1937.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw