Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma ddyddiadur David John Davies, peiriannydd ar fwrdd HMS Tara. Ar 5 Tachwedd 1915, ym Môr y Canoldir, cafodd y llong ei dryllio gan dorpido a daniwyd gan un o longau tanfor yr Almaenwyr.

Arferai'r HMS Tara gario teithwyr rhwng Caergybi a Dulyn ond cafodd y llong ei hawlio gan y Morlys ym 1914 a'i hanfon i Fôr y Canoldir ym 1915. Yn dilyn yr ymosodiad aethpwyd ag aelodau'r criw, a oedd ymron i gyd yn hannu o sir Fôn, i Port Sulieman lle cawsant eu rhoi yn nwylo'r awdurdodau Twrcaidd. Cawsant eu dal yn garcharorion gan griw o filwyr Senussi a oedd dan awdurdod y swyddog Twrcaidd, Nouri Pasha. O'r diwedd, ar 17 Mawrth 1916, 135 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu dal, cafodd y dynion eu hachub gan aelodau o'r Lluoedd Prydeinig.

Yn y cofnod cyntaf yn ei ddyddiadur, sydd wedi'i ddyddio 5 Tachwedd 1915, mae David John Davies yn disgrifio'r ymosodiad ar yr HMS Tara, cwch patrôl cynorthwyol. Esbonia mai SS Hibernia oedd enw gwreiddiol y llong ac arferai fod yn eiddo i gwmni Rheilffordd y L&NW [London & North Western] ac yn cludo teithwyr rhwng Caergybi a Dulyn. Roedd y llong yn teithio i gyfeiriad Sollum, porthladd yn yr Aifft ar y ffin rhwng yr Aifft a Libya, pan gafodd ei tharo gan dorpido ar yr ochr dde. Suddodd y llong ymron ar unwaith ond llwyddodd tri bad achub i ddianc: cafodd 93 o'r 104 o ddynion a oedd ar ei bwrdd eu cludo i'r lan yn Port Sulieman (tua 20 milltir i'r gorllewin o Sollum), gan y llong danfor Almaenig U53. Lladdwyd yr aelodau rheini o'r criw a oedd yn ystafell yr injan a'r tri a oedd yn eu cabanau gerllaw yn yr ymosodiad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw