Marchoglu Llandrindod
Disgrifiadau
Fel rhan o Wŷl Fictorianaidd Llandrindod ym mis Awst 2010 fe draethodd Martin Heighway ddarlith yng ngwesty Glen Usk o dan y teitl 'Cheer up - you'll soon be dead!'. Roedd dwy rhan i'r ddarlith: Llandrindod yn y Rhyfel Mawr, a 'Marchoglu Llandrindod'. Roedd y ddarlith yn Saesneg. Dyma recordiad o'r ail ran, sef 'Marchoglu Llandrindod', sy'n sônam sgwadron 'D' y Montgomeryshire Yeomanry. Y pynciau dan sylw oedd: Y Drill Hall Llandrindod; cyfansoddiad y Montgomeryshire Yeomanry; 'D Squadron' a'i berthynas â Llandrindod; codi'r gatrawd ym mis Awst 1914 a'r daith ar draws Cymru i swydd Norfolk gyda'u ceffylau; trafferthion gofalu am gannoedd o geffylau; y gwersyll yn Blickling Hall, Norfolk, a gwasanaeth yn nwyrain Lloegr; hwylio ar HMT Arcadian i Alexandria, yr Aifft; gwarchod Camlas Suez ym 1916; gwrthryfel yr Arabiaid a'r ymgyrchoedd yn erbyn y Tyrciaid yn Sinai; brwydrau Gaza; ail-gynull yr uned o 1 Ionawr 1917 fel 25ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig; eu gweithgareddau yn yr ymgyrch ym Mhalesteina 1917-18; brwydr Beersheba, Hydref 1917, pan oedd y bataliwn yn cefnogi'r marchoglu Awstralaidd a gipiodd y dref ynghyd â'r ffynonellau a sicrhaodd ddŵr i 40,000 o wŷr a'r ceffylau; cipio dinas Jerwsalem, Rhagfyr 1917; dychwelyd i Ffrainc ar SS Malwa, Ebrill 1918; brwydrau'r Hindenberg Line, gan gynnwys Epehy, 18 Medi 1918, pan gollodd yr uned 65 o ddynion ac enillodd Sgt Waring y VC; dychwelyd i Brydain (i'r Trallwng) a dadfyddino; yr orymdaith olaf ym 1920; beddaudau o Landrindod a fu farw yn Beersheeba ar 31 Hydref sydd wedi'u claddu ym mynwent y CWGC - sefCorporal Edward Daines Hutt a Preifat Smith. (Mae saib tuadiwedd y ddarlith oherwydd i Martin gyflwynodarn allan o ffilm Awstralaidd "The Lighthorsemen" (1987), am frwydr Beersheeba ar 31 Hydref 1917).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment