Skip to main content

Llandrindod yn y Rhyfel Mawr

Disgrifiadau

Fel rhan o Wŷl Fictorianaidd Llandrindod ym mis Awst 2010 fe gyflwynoddMartin Heighway ddarlith yng ngwesty Glen Usk o dan y teitl 'Cheer up - you'll soon be dead!'. Roedd dwy rhan i'r ddarlith: Llandrindod yn y Rhyfel Mawr, a 'Marchoglu Llandrindod'. Roedd y ddarlith yn Saesneg. Dyma recordiad o'r rhan gyntaf, sef Llandrindod yn y Rhyfel Mawr. Y pynciau dan sylw oedd: Llandrindod fel tref sba; y ffrynt gartref; y driniaeth o drigolion Almaenig yn Llandrindod ac Aberhonddu; paratoi'r dref (e.e. dod o hyd i 4,000 o welyau i'r milwyr a 80 o welyau ar gyfer y cleifion) a'r defnydd o'r dref ar gyfer hyfforddiant gan y Royal Army Medical Corps (RAMC); ffoaduriaid o wlad Belg; cyfansoddiad y RAMC; Llandrindod fel garsiwn; Comin Penybont; Noel Chavasse VC* MC; Llandrindod yn lleihau fel canolfan hyfforddi; newidiadau i'r triniaethau ar gyfer milwyr gyda myalgia (a adwaenid fel 'trench fever'); gwasanaeth gan wrthwynebwyr cydwybodol yn Llandrindod, a sut cawsant eu trin; ychydig o farddoniaeth wael am y rhyfel a draethwyd yn y Grand Pavilion, ac ymateb mewn ffurf cerdd gan Lt Sewart RAMC.

Owner:
Martin Heighway
Crëwr:
Martin Heighway
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2011
Date originally created:
18/8/2010
Gwelediadau:
1801
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment