Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd Guildford Austin yng Nglandŵr, Abertawe, ym 1885 ac fe ymunodd â'r Welsh Regiment pan yn 18 oed. Roedd yn y garsiwn yn Aberhonddu o 1904 hyd 1914, ac yn ystod y cyfnod hwn fe briododd ag Annie May Webb a magodd dri phlentyn. Ar ôl dechrau'r rhyfel symudwyd Guildford a'i gyfeillion i Gaerdydd ar 5 Awst 1914, ac fe ddanfonwyd y bataliwn i Ffrainc y diwrnod canlynol. Cafodd ei anafu mewn brwydr ym mis Tachwedd 1914, gyda niwed mawr i'w wyneb, gan gynnwys colli'i lygad. (Adroddai Guildford fod milwr Almaenig wedi rhoi ei bayonet uwchben ei lygad arall, er ei fod yn amlwg wedi ei anafu'n ddrwg, ond fe ataliwyd y milwr rhag gwneud niwed pellach neu ei ladd gan gerydd swyddog Almaenig). Dywedwyd wrth y teulu bod Guildford ar goll, ac ni ddaethant i glywed ei fod yn garcharor rhyfel tan fis Ionawr 1915. Tra'n garcharor, fe ail-adeiladwyd wyneb Guildford - cymaint felly fel ei fod yn anodd credu bod ei drwyn, ei foch a rhan o'i geg wedi eu hail-greu. Yn ogystal roedd llygad artiffisial ganddo. Roedd yn arfer dweud wrth ei wyrion bod yr awdurdodau Almaenig wedi ei ddedfrydu i farwolaeth am hybu miwtini, ond fe wnaeth ymyrraeth y Groes Goch achub ei fywyd. Yn ystod ei gyfnod fel carcharor fe dreuliodd 108 o ddiwrnodau mewn cell ar ben ei hunan, ond ar y llaw arall dywed awdurdodau'r fyddin Brydeinig ei fod yn gymeriad di-staen. Roedd yn garcharor rhyfel am dair blynedd a hanner, ac yna fe'i danfonwyd i'r Swistir i geisio gwella. Ymunodd ei wraig ag efyno cyn iddo gael ei ddanfon nôl i Loegr ar 11 Mehefin 1918. Pan ddychwelodd i Abertawe ym 1918 cafodd Guildford dderbyniad arwr, gan mai fe oedd y carcharor cyntaf i ddod yn ôl i'r ardal. Derbyniodd y llythyr hwn gan y Brenin King George V ym 1918 wedi iddo gael ei ollwng o'r fyddin. Wedi'r rhyfel fe anwyd tair merch arall iddo ef a'i wraig, ac fe'i disgrifiwyd fel tad, gŵr a thad-cu arbennig. Fodd bynnag, nid oedd ei anafiadau yn gadael iddo anghofio am ei ddioddefaint yn y Rhyfel Mawr. Roedd yn dioddef o bennau tost dychrynllyd ac ni rannodd ei brofiadau gwaethaf ond gyda'i wraig. Fe wasanaethodd fel ysgrifennydd canghennau lleol yr 'Old Contemptibles' a B.L.E.S.M.A. (British Limbless Ex Service Men's Association). Fe wisgodd Guildford ei fedalau â balchder bob tro yr oedd gorymdaith, neu mewn cyfarfodydd o sefydliadau milwrol. Bu farw yn Abertawe ym mis Mai 1961.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

Anonymous's profile picture
This man was my grandpa and we loved him dearly

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw