Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd Moses Jenkins ar 11 Hydref 1879 yng Ngelligaled, Cwm Rhondda, yn fab i Thomas a Sarah Jenkins. Ef oedd yr ail fab ac, fel ei dad, fe aeth i weithio fel glöwr pan oedd yn ddigon hen. Priododd â Bronwen Evans ym 1901 ac fe ddechreuon nhw eu bywyd priodasol yn Nhylorstown, Cwm Rhondda, cyn symud i Aberpennar wrth i'w teulu dyfu. Parhaodd Moses i weithio yn y pwll glo, ond roedd hefyd yn adnabyddus am ei lais canu da.
Ar ôl dechrau'r rhyfel fe wirfoddolodd Moses ar gyfer y fyddin ac erbyn 1915 roedd yn y Royal Field Artillery, 121st brigade. Roedd yn gwasanaethu yn Ffrainc ym 1917 pan fu farw o'i anafiadau ar Fehefin 7 wedi i siel ffrwydro. Gadawodd ar ei ôl wraig a phump o blant, o 4 oed i 15 oed. Mae ei fedd ym mynwent filwrol Mendinghem ger, Gwlad Belg. Dyma fedal y '1914-15 Star', a dderbyniodd ei deulu am ei wasanaeth.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw