Llun o’r Saer Llongau Joseph William Hughes
Disgrifiadau
Roedd Joseph William Hughes, 56 Woodville Road, Abertawe, yn briod â Vera ac roedd ganddynt dwy ferch. Gwasanaethodd fel Saer Llongau, 1st Class 132399, Royal Navy, H.M.S, Hawke. Fe'i lladdwyd yn 53 oed ar 15 Medi 1914 ym Môr y Gogledd. Fe'i coffawyd ar Gofeb y Llynges, Chatham a Chroglen Goffa'r Rhyfel Mawr, Eglwys All Saints', Y Mwmbwls, Abertawe.
Derbyniodd alwad yn syth wedi i'r rhyfel gychwyn a gadawodd beth oriau yn ddiweddarach. Roedd yn un o'r 524 o ddynion a gollwyd pan suddwyd HMS Hawke gan dorpido o'r llong danfor U9.
Nododd y Mumbles Press:
'Mr. Hughes first came to Mumbles as a Coastguard and since finishing his time with that service about six years ago, had carried on the trade of a joiner and carpenter'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment