Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Thomas John Taylor, mab Thomas Taylor ac Eleanor (ne Jenkins), Coltshill House, Norton. Roedd yn un o chwech o blant. Gwasanaethodd fel Cloddiwr19732, 17th Field Company, Royal Engineers a bu farw o'i anafiadau ar 9 Ebrill, 1915 yn yr ardal Ypres, Belgium. Fe'i claddwyd ym mynwent tref Ypres a choffawyd ag anrhydedd ar Groglen Goffa y Rhyfel Mawr, Eglwys All Saints', Y Mwmbwls, Abertawe.
Roedd ganddo dair chwaer, Charlotte, Beatrice a Grace. Goroesodd ei frodyr Philip a William y rhyfel. Maent wedi eu coffau ar Restr y Gwroniaid, Ysgol y Cyngor Oystermouth ac yn llyfr cofnodion yr ysgol yn 1916.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw