Skip to main content

‘Ceiniog y Brenin’ Preifat Herbert Henry Sanders

Disgrifiadau

Roedd Herbert Henry Sanders yn fab i Harry, Oak Cottage, Norton. Gwasanaethodd fel Preifat 6388, 6th East Lancashire Regiment ac fe'i lladdwyd ar faes y gad yn 18, ar 16 Chwefror 1917, ym Mesopotamia. Fe'i coffawyd ym Mynwent Filwrol Amara, Irac ac ar Groglen Goffa y Rhyfel Mawr, Eglwys All Saints', Y Mwmbwls, Abertawe.
Ymunodd ar 24 Mawrth 1916. Roedd wyth o'i gefndryd yn y fyddin a dychwelodd un - Mr. A Sanders - nôl o'r rhyfel yn dra byddar ond aeth yn ei flaen i ddysgu yn Ysgol yr Eglwys, The Dunns, Y Mwmbwls.
Cyflwynwyd y Plac Coffa efydd yma i deulu Herbert - adnabyddir ar lafar fel "Ceiniog y Brenin"

Owner:
Welsh Voices Project & Oystermouth Historical Asssociation
Crëwr:
Welsh Voices Project & Oystermouth Historical Asssociation
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2011
Date originally created:
1/8/1914 - 16/2/1917
Gwelediadau:
1291
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment