Is- gorporal Arthur Ernest Jones
Is- gorporal Arthur Ernest Jones
Disgrifiadau
Roedd Arthur Ernest Jones yn fab i Mr & Mrs David Jones, Forgefield Terrace, Castle Road, Norton a phriododd Mable Davies yn fuan cyn ei farwolaeth. Gwasanaethodd fel Is-gorpral, Arwyddwr 2324, 11th Rifle Brigade ac fe'i lladdwyd ar faes y gad yn ardal Ypres yn 21 oed ar 16 Mehefin, 1916. Fe'i claddwyd yn Vlamertingh British Cemetery, Gwlad Belg ac fe'i coffawyd ag anrhydedd ar Groglen Goffa y Rhyfel Mawr, Eglwys All Saints', Y Mwmbwls, Abertawe.
Nid oes enw ar y llun yma, ond llwyddodd ei nith, Miss Childs, Y Mwmbwls, adnabod y llun gan ei fod yn hongian ar wal ei thŷ pan oedd yn ifanc.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment