Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Alfred Jenkins yn fab i Mr & Mrs William Jenkins, Clifton Terrace, Southend, Abertawe ac yn briod ag Ethel Jenkins, King Street, Pembroke Dock. Gwasanaethodd fel Decmon 3709/Sd, Royal Naval Reserve, H.M. Paddle Minesweeper, Queen of the North ac fe'i lladdwyd gan dorpido yn 26 oed ar 20 Gorffennaf, 1917. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyffredinol Noordwijk, Yr Iseldiroedd ac fe'i coffawyd ag anrhydedd ar Groglen Goffa y Rhyfel Mawr, Eglwys All Saints', Y Mwmbwls, Abertawe..
Roedd gan Mr & Mrs. Jenkins bedwar mab arall yn y Llynges - William, Harry, Ivor ac Ernest. Lladdwyd Ernest ar y 11 Tachwedd ; lladdwyd Mr. W. Bullock - eu mab-yng-nghyfraith - hefyd ar faes y gad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw