Tŵr Talgarth, 1960au
Disgrifiadau
Ffotograff o'r casgliad helaeth 'Tai Brycheiniog / Houses of Breconshire' sydd yng ngofal Amgueddfa ac Oriel Brycheiniog. Dechreuwyd arolwg o dai arwyddocaol y sir ym 1959 gan y Pwyllgor Addysg fel gwasanaeth i athrawon. Gwnaed cofnod o dai mawr a bach, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, gyda ffotograffau a darluniau mesuredig. Gan fod nifer o'r adeiladau mewn cyflwr gwael ar y pryd, mae'r adnodd hwn yn gofnod gwerthfawr o bensaernaeth tai traddodiadol, yn arbennig gan fod rhai ohonynt wedi eu dymchwel neu wedi eu haddasu a'u newid yn sylweddol.
Mae'r ffotograff hw'n yn darlunio'r siop a'r tŷ oedd yn sownd wrth Dŵr 14eg ganrif Talgarth y drws nesaf i bont Afon Ennig yn Nhalgarth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment