Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad


Fe gyflwynwyd y sgrol addurnedig hon, sy'n llawn delweddau cryf, i D Llew Williams, MC, gan ei gapel i nodi ei wasanaeth gyda'r Royal Army Medical Corps. Sylwer ar sut mae rhai o'r delweddau amrywiol yn tueddu i glodfori rhyfel er mai'r gair olaf ar y gwaelod yw heddwch;.Mae'r arysgrif yn darllen:

Tros Ryddid a Chyfiawnder / Cyflwynedig i Captain D Llew Williams M.C. (Royal Army Medical Corps) gan aelodau Eglwys Crwys Road Caerdydd yn arwydd o'u hedmygedd a'u gwerthfawrogiad o'i barodrwydd i aberthu dros ei wlad yn Rhyfel Mawr 1914-1918.'Eithr ba waeth, ni fathr y byd actau ieuanc dyhewyd'. [Llinell oddi ar;Yr Arwr gan Hedd Wyn]. Croesaw Gartref.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw