Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma lun o deulu Rogers a dynnwyd ym 1890. Roedd un brawd a saith chwaer yn y busnes, anghyffredin iawn gan nad oedd merched yn gweithio bryd hynny. Rhes gefn o'r chwith i'r dde: Mrs Sarah Roberts, lletywraig tafarn y Bridgend Inn ym Mrynaman, Josiah Rogers, Siop Esgidiau, Brynaman, Mrs Ann Caruthers, Siop Esgidiau, Rhydaman, Miss Mary Rogers, Masnachwraig Te, Garnant. Yn eistedd, o'r chwith i'r dde mae: Mrs Catherine Lewis, CSiop Ddillad, Llanelli, Mrs Margaret Williams, Siop Dan-y-Bryn, Garnant, Mrs Lucy Jones, tafarn y Bridgend Inn, Rhydaman a Mrs Elisabeth Evans, gwesty Brynaman Hotel.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw