Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonwyd y llythyr hwn o wersyll Sutton on Hull yn Swydd Efrog lle'r oedd Owen yn gwasanaethu gyda 3ydd Bataliwn Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn. Mae wedi derbyn llythyr gan Evan [ei frawd] ynghyd â phapur doctor, ond nid oes gobaith y caiff ddychwelyd adref i helpu gyda'r gwair. Mae'n sôn y byddai'n well iddynt beidio ag anfon dillad eto gan fod siawns am benwythnos yn fuan. Mae'n nodi fod llawer o'r dynion wedi gadael am Hornsea [Swydd Efrog] ddydd Llun diwethaf. Yn ôl Owen, dywedodd y Sarsiant wrthynt na fyddent yn dychwelyd i'r gwersyll ond y byddent yn cael eu hanfon 'off to Salonika or somewhere'. Ar ddiwedd y llythyr, dywed ei fod yn credu mai efallai i'r India neu'r Aifft y bydd yn rhaid iddo fynd nesaf.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw