Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae tudalen gyntaf y llythyr hwn ar goll. Nid yw Owen wedi clywed oddi wrth y rhai sydd yn y Drenewydd ers sbel. Dywed nad yw'n gweld fawr o arwydd o'r 'Rhyfel Mawr' hwn yn dod i ben, dywed 'them men that is keeping this war on ought to come and stand in these places, and [see] what we have to go through for few minutes to see how would they like it'.
Mewn ôl-nodyn dywed Owen fod y fan lle y mae nawr yn dawel iawn gydag ond hanner awr o gerdded i'r pentref a dywed 'there is plenty of Boozers out in France, they are very near every other door'. Dywed ei fod yn mynd i fewn i rai o'r tafarndai weithiau er mwyn cael ychydig o goffi: 'it is very nice, we try and keep our hearts up and enjoy ourselves'.
Dywed wrth ei deulu ei fod yn meddwl amdanynt yn aml ond mae'n dweud wrthynt am beidio â phoeni.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw