Llythyr, heb ddyddiad, a anfonwyd adref gan Owen Ashton o Lawryglyn, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf [tudalen 1 o 2]
Llythyr, heb ddyddiad, a anfonwyd adref gan Owen Ashton o Lawryglyn, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen y llythyr hwn o Wersyll Thirtle Bridge, Withernsea, Swydd Efrog. Mae'n oer iawn ond nid ydynt wedi cael rhyw lawer o eira. Bu'n rhaid i Owen a bachgen arall ddod o'r tŷ coginio er mwyn bod yn rhan o'r orymdaith. Aeth Owen at y deintydd dydd Sadwrn, nid oedd wedi bwriadu mynd ond cafodd rybudd oddi wrth y Corporal Dydd, nos Wener ddiwethaf. Bellach mae Owen yn cysgu mewn cwt mawr gyda thua phedwar deg arall. Mae nifer o rai newydd yn ymuno â hwy yma. Sonia Owen am bobl adref a dywed y bydd yn anfon ei wasgod. Mae'n amau y bydd ar y drafft yn fuan os bydd y doctor yn rhoi caniatâd iddo.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment