Skip to main content

Llythyr, heb ddyddiad, a anfonwyd adref gan Owen Ashton o Lawryglyn, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Mae Owen wedi cyrraedd Gwersyll Halsham, Ottringham, Swydd Efrog a dywed wrth ei rieni ei fod yn cadw'n dda ynghanol y mwd. Roedd carfan a adawodd am Ffrainc nos Wener yn cynnwys nifer o ffrindiau Owen gan gynnwys Edward. Dywed Owen ei fod yn meddwl y byddai ef wedi cael mynd hefyd heblaw am y problemau mae wedi cael gyda'i ddannedd. Mae pawb wedi cael digon ac mae'n le ofnadwy pan fo'n oer a gwlyb. Sonia am ddigwyddiad rhyfedd yn Hull lle saethodd mab dwy ar bymtheng mlwydd oed ei dad; roedd yn un o naw o blant. Ar ddiwedd ei lythyr dywed Owen:
'i mae llawer Mam a thad fel chwithau a bechgyn bach yma, fel finnau. does gyda ni ond gobeithio y bydd ir hwn sydd uwchlaw pawb arall yn gofalu amdanom i gyd'

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28729
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
1916
Gwelediadau:
1025
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment