Llythyr a anfonwyd adref gan Owen Ashton o Lawryglyn, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, 12 Mawrth 1919 [tudalen 1 o 6]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen i ddweud nad yw'n gwybod pryd y bydd yn dyfod adref. Sonia am nifer o wahanol garfanau gan gynnwys y King's Own a oedd yna ddoe. Roedd yn yr eglwys dydd Sul ac yn y sinema y noson cyn hynny. Mae wedi cael cawod a chael dillad glan, dim ond tri neu bedwar diwrnod ers ei gawod diwethaf mewn ymgais i gael gwared â'r 'chatts' [llau]. Mae dillad isaf y dynion i gyd yn cael eu mygdarthu ac mae'r blancedi eisoes wedi derbyn yr un driniaeth. Cafodd y dynion bregeth oddi wrth y Capten oherwydd bod ganddynt lau. Dywed wrthynt mai y blancedi brwnt a'r hen ddillad oedd ar fai am hynny. Dywedodd y Capten ei fod am geisio cael dillad newydd ond byddai unrhyw un a oedd yn parhau i fod â llau wedi hynny yn cael eu rhoi yn yr Ystafell Warchod. Dywed Owen eu bod yn ymladd â chlustogau wedi i'r goleuadau gael eu diffodd - 'we must be Happy as we are'. Mewn ôl-nodyn Cymraeg gofynna Owen i'w dad os yw wedi cael digon o waith yn hela wyau erbyn hyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment