Llythyr a anfonwyd adref gan Owen Ashton o Lawryglyn, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, 23 Chwefror 1919 [tudalen 1 o 3]
Disgrifiadau
Dengys y llythyr hwn pa mor hir y bu'n rhaid i rai milwyr aros cyn dychwelyd adref wedi Cadoediad Tachwedd 1918. Tri mis wedi i'r gynnau dawelu ysgrifenna Owen i ddweud wrth ei chwaer Lizzie nad ef sydd ar fai am nad yw wedi dychwelyd adref eto er ei fod yn amau fod rhai dynion yn gadael y diwrnod canlynol am byth. Mae'n gobeithio cael clywed yn ddyddiol. Bu ei rieni yn poeni ei bod yn oer iawn iddo deithio adref ond yn ôl Owen: 'only want them to mention it to me, they would not see my back for Dust'. Sylweddola ei fod dros oedran ond eu bod yn aros am garfan o ddynion i'w rhyddhau. Mae ganddynt ddigon o lo, yn wir ni allant gysgu weithiau oherwydd y gwres sy'n dod o'r stôf. Mewn ôl-nodyn dywed yr hoffai i'w deulu weld lle y mae yn awr oherwydd ei fod mewn man hyfryd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment