Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 4 Gorffennaf 1918 [tudalen 1 o 3]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn mae Owen yn meddwl am adref a chreda y bydd y gwair yn hawdd i'w gasglu os yw'r tywydd yng Nghymru cystal ag yw yn Ffrainc. Mae'n disgwyl y bydd wedi symud erbyn i'w deulu dderbyn y llythyr hwn. Bu cyrch ychydig nosweithiau'n ôl ac mae nifer o ddynion ar goll. Nid yw'r Capten wedi dychwelyd nac un o'r Rhedwyr. Gwyddant fod y Rhedwr wedi'i glwyfo'n wael ond ni lwyddwyd i ddod o hyd iddo er holi'n y Pwyntiau Cymorth; efallai ei fod wedi'i gymryd yn garcharor. Mae Owen yn dal i fod gyda'r cogydd, ac mae'n ddigon hapus cael bod yno. Dywed wrth ei chwaer fod yn ddrwg ganddo glywed am Hannah Richards a gofynna iddi ddweud wrthi:
'many Chaps is laughing to get a nice wound to get away from Here, one Chap the other morn was hit with a piece of sharpel [sic] on his arm He did not take much notice of it, one of the Chaps was asking him if the piece was in, no He said I Heard it drop down my sleeve, and little after He had His coat off it Had gone through His arm'.
Ceisia Owen dawelu meddwl ei deulu drwy ddweud eu bod yn ddigon hapus er gwaethaf yr amserau caled ac ar ddiwedd y llythyr dywed; 'Cheer up old Boy - Ha Ha.'

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28724
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
4/7/1918
Gwelediadau:
1243
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment