Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 29 Mehefin 1918 [tudalen 1 o 8]

Disgrifiadau

Ysgrifenna Owen o Ffrainc ac mae'n siomedig mai dim ond rhan o'i lythyr diwethaf a dderbyniodd Lizzie. Creda ei fod wedi ysgrifennu rhywbeth na ddylai fod wedi gwneud ac arweinia hyn iddo sôn am y chwithdod o gael rhywun yn agor eich post yn enwedig os mai llythyr caru ydyw. Gofynna ynglŷn ag iechyd ei ffrindiau a'i gymdogion. Mae'n parhau i fod yn y ffosydd, ac am y pythefnos diwethaf mae wedi bod gyda'r cogydd yn 'Helping Him to burn the water'. Cafodd cogydd y swyddogion ei glwyfo yr wythnos diwethaf ynghyd â dau o gogyddion Manceinion. Bu'n rhaid i Owen a'i gydweithwyr symud o'u safle yr un noson. Dywed Owen eu bod yn 'going through something out Here, but the Ground about Here is Nothing like it was about Passendale' [sic]. Gobeithia Owen weld ei deulu'n fuan; mae'n gobeithio y bydd y cyfan drosodd yn fuan. Mae wedi derbyn parsel o'r 'Llan-Committee' yn cynnwys crys a phâr o sanau.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28723
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
29/6/1918
Gwelediadau:
1118
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment