Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 28 Ebrill 1918 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn dywed Owen wrth ei rieni a'i chwaer ei fod allan o'r ffosydd unwaith eto ac mewn pentref. Bu'n y ffosydd am chwe diwrnod ar hugain, yn dilyn un diwrnod ar bymtheg mewn ffosydd eraill. Cymerasant y lletyau drosodd o'r Gwarchodlu Cymreig ac fe welodd Owen 'Parry the Police' sydd erbyn hyn yn Siarsiant yn y Gwarchodlu Cymreig. Yn ôl Owen 'hen sgubor to gwellt' yw'r llety. Dywed Owen mai peth braf yw cael dod i le fel hwn gan na cheir ymosodiadau. Bu Owen mewn Parêd Eglwys y bore hwnnw am y tro cyntaf ers sbel. Dywed Owen fod pedwar dyn wedi'u colli yn y daith ddiweddaraf i'r ffosydd a dywed wrth ei rieni nad yw'n gwybod beth yw'r rheswm dros hyn. Ceir digon o fwyd ar hyn o bryd; roedd y parseli a anfonwyd ato o'i gartref wedi ei gadw i fynd tra oedd i fyny'r llinell. Ar ddiwedd y llythyr dywed Owen y bydd ef ar goll y tro nesaf y bydd adref gan fod cymaint wedi newid - gobeithia y bydd Duw gyda hwy.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment