Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 28 Mawrth 1918 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Ysgrifenna Owen i ddweud wrth ei rieni a'i chwaer ei fod wedi derbyn y parseli. Gofynna iddynt ddiolch i Mrs Lloyd am y cacennau neis mae wedi'u hanfon ato; cafodd amser da wedi iddo ddychwelyd o'r llinell oherwydd eu bod angen peth bwyd ychwanegol wedi iddynt ddod allan. Tra'r oedd ar y llinell flaen, defnyddiodd Owen yr ychydig de a siwgr a ddaeth yn ôl gydag ef pan fu ar seibiant. Dywed wrth ei rieni eu bod yn aml mewn llefydd rhyfedd. Rhaid iddynt gadw dan orchudd yn ystod y dydd er mwyn sicrhau nad ydynt yn datgelu eu safle. Nid oes gwasanaeth wedi bod ar y Sul ers iddo ddychwelyd ond mae'r tywydd wedi bod yn braf. Roedd ei chwaer Lizzie wedi gofyn os oedd yn gallu cael dŵr; dywedodd Owen fod yna ddigon yn y tyllau ffrwydron mawr, ond ni allant ddefnyddio hwnnw. Dywed Owen nad yw'n teimlo'n dda iawn, mae ei draed yn wael ac mae'n rhaid iddynt gario pwysau trwm gyda hwy. Yn y llinell yn ddiweddar roedd yn flinedig iawn ac yn chwysu a bu'n rhaid iddo sefyll ar ddyletswydd y gwyliwr drwy'r nos ond mae'n falch o gael dweud wrth ei rieni ei fod allan yn ddiogel eto. Ar ddiwedd y llythyr dywed Owen y bydd yn ysgrifennu mor fuan ag y gall ond ei fod yn teimlo'n flinedig iawn y bore yma oherwydd fod y pecyn mae'n ei gario yn drwm iawn, dywed: 'I hope you understand what I mean'.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28715
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
28/3/1918
Gwelediadau:
886
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment