Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 18 March 1918 [tudalen 1 o 3]
Disgrifiadau
Sonia Owen am dywydd sychach; mae'n llawer yn well ganddo hwnnw oherwydd fod pethau yn ofnadwy pan yn wlyb. Nid yw wedi gweld sifiliaid nac unrhyw dai sy'n sefyll yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ac nid yw'r dynion wedi gorffwyso'n iawn. Mae'n ddrwg ganddo glywed 'about any lads that have to come out here'. Roedd ei chwaer wedi dweud wrtho am gyrchoedd [awyr?] ar Baris a Llundain, ond nid oedd ef wedi clywed dim. Dywed ei fod yn aml yn syrffedu. Ni all newid Archebion Post yn y ffreutur na'r YMCA. Ni cheir fawr o gyfle i wario arian ac nid yw'n cael fawr o gyfle i ysgrifennu llythyron ychwaith, dim ond Cardiau Maes. Mae'n edrych ymlaen i dderbyn eu llythyrau. Anfona gusanau gyda'r neges 'some Barbed wire for you what we use a lot between us and the Johnnies'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment