Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 31 Rhagfyr 1917 [tudalen 1 o 6]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn disgrifia Owen yr oerfel a'r haenen dda o eira sydd ar y ddaear. Mae wedi symud ddwywaith ers ei lythyr diwethaf. Diwrnod ar ôl y Nadolig roedd yn gweithio i fyny'r llinell o 6.00am hyd at 9.00pm, heb ddim i'w fwyta ond dau becyn bach o fisgedi. Nid oedd yn ôl yn y gwersyll tan hanner nos. Mae'n bell o'r llinell erbyn hyn; buont ar y trên am bum neu chwe awr yna cerdded am bedair milltir ar ddeg heb ddim i'w fwyta ar ôl brecwast a dim wedi iddynt gyrraedd y gwersyll. Yn ôl Owen, nid oedd nifer ohonynt yn medru cerdded erbyn hyn. Cafodd Owen ddiod o goffi a darn o fara cyn iddynt ddechrau. Bwytaodd y dynion eira ar yr orymdaith ond roedd y ffaith eu bod yn symud i ffwrdd o'r gynnau yn cadw eu hysbryd yn uchel. Sonia am ŵr ifanc o Ffestiniog, yr oedd wedi cwrdd ag ef yng ngwersyll hyfforddi Sutton on Hull, fe'i lladdwyd yr wythnos flaenorol. Roedd Owen wedi'i weld sawl gwaith ers iddynt gyrraedd Ffrainc; roedd yn y babell gydag eraill yn canu pan ddisgynnodd ffrwydryn a chafodd ei daro ar ei ben. Ysgrifenna Owen ôl-nodyn yn y llythyr hwn - mae'n mynd allan am baned o goffi i swper 'Trae Bon, Madam'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment