Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 2 Rhagfyr 1917 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dywed Owen ei fod newydd ddod i lawr y llinell neithiwr. Roedd yn y llinell flaen am dri diwrnod ac fe gafodd amser caled. Lladdwyd rhai bechgyn, gan gynnwys y swyddog; fe'i saethwyd gan saethwr cudd. Dywed fod y lle hwn mewn stâd ofnadwy
'we have to go all the way on duckboards, you can't see anything but shell holes, and them full of water'
Diolcha Owen i'w chwaer am ei harcheb bost, gofynna iddi am beidio ag anfon dim mwy, ond efallai y byddai'n falch o gael archeb un swllt. Nid yw wedi cael fawr o gwsg, roedd ar fin cysgu bore ddoe pan ddechreuodd yr Almaenwyr eu pledu ac fe aeth dau ddarn o shrapnel i'w fraich chwith
'but I am glad to tell you I wasn't much worse'
Gwna Owen sylw 'the People in England Got no idea what it is out here'.
Dywed Owen eu bod wedi cael gorchymyn i fod yn barod ar rybudd o ddwy awr. Anfona ei gyfarchion at ei rieni a'i chwaer, ysgrifenna am ffrindiau a pherthnasau eraill sydd yn ôl adref, ac yna gorffenna'r llythyr ar nodyn herfeiddiol
'Johnnies [yr Almaenwyr] is not going to have all his way ha ha'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment