Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 2 Medi 1917 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn dywed Owen nad yw wedi bod yn dda yn ystod y pythefnos diwethaf a bod y clwyf yn parhau i ddatblygu ar ei wyneb. Mae'r dynion eraill yn dioddef hefyd ac mae'r doctor wedi dweud wrthynt mai effaith y nwy ydyw. Yn ôl Owen, mae'r nwy yn ofnadwy 'if we happen to get a good dose'. Bu'n rhaid iddynt wisgo helmydd nwy am awr un diwrnod yn y ffosydd a bu'n rhaid i nifer fynd at y doctor ar ôl noson pan oedd y nwy 'like fog' oherwydd ei fod yn effeithio ar y llygaid. Sonia Owen fod gan 'Johnny' [yr Almaenwyr] wahanol fathau o nwy.
Dywed Owen ei fod yn gobeithio y bydd mab Bronant yn gwella, ac esbonia wrth ei chwaer, er bod nifer o ddynion o'u hardal yn ymladd nid yw'n cael y cyfle i'w gweld yn y fan lle y mae. Dywed wrth Lizzie am beidio ag anfon oriawr, ond os ydyw am wneud hynny, iddi anfon un gwerth pum swllt gan y bydd yn siŵr o gael ergyd. Gwna sylwadau ar symudiadau parhaus y milwyr. Bu "Johnny" yn dawel neithiwr a heddiw, ond yn ystod eu noson gyntaf yna disgynnodd ffrwydryn yr ochr arall i'r ffordd iddynt gan dorri eu ffenestr - roedd Owen yn ofni y byddai'r cwt yn cwympo. Gorffenna unwaith eto drwy anfon ei gofion gorau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment