Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 25 Gorffennaf 1917 [tudalen 1 o 6]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen at ei Fam gan ddweud ei fod angen seibiant da oherwydd nad yw wedi cysgu'n iawn ers sbel. Cafodd un o'r cytiau eu chwythu i lawr cyn golau dydd tra oedd dynion y tu mewn iddo felly cysgodd Owen mewn cae neithiwr gan ofni y byddai 'ef' yn ymosod ar y gwersyll. Mae'n ddrwg ganddo glywed am farwolaethau Ewythr Cefn Golau a brawd Mr Bennet Owen ac aiff ymlaen i ddweud
"but it is better to see one being buried like that, than to see the poor fellows is going under here every day [wedi'i groesi allan] well this is a terrible war and not much sign for it to come to and [sic] end, we are in a very bad part here, one the worst I here [sic] them say, and it will be awful here in a few days as they do tell, well I hope we will be out of it, when the Bombardment will be on".
Gobeithia Owen fod Duw ar eu hochr ac nad ydynt yn mynd ymlaen 'in their own way', diolcha iddynt am yr emynau a dywed wrth Lizzie ei fod yn meddwl amdani wrth fynd i fyny i'r llinell; byddai'n hoffi bod yn ôl yn cysgu mewn gwely da heb unrhyw beth yn tarfu arno. Nid yw'n gwybod pryd y bydd ymosodiad arnynt, 'its awful' dywed wrth ei annwyl chwaer. Dywed wrth ei dad am beidio â gweithio'n rhy galed a gofynna os ydynt wedi cael gwyliau yr haf hwn. Dywed efallai y bydd yn anfon ei oriawr adref gan nad yw o ddefnydd iddo gan fod tywod wedi mynd i fewn iddi.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment