Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma'r llythyr cyntaf i Owen ei anfon adref o dramor ac oherwydd gofynion y sensor y mae wedi gorfod troi i ysgrifennu yn Saesneg. Dywed wrth ei rieni ei fod e dal 'yma', ond efallai y bydd yn symud rywbryd yn ystod yr wythnos hon. Mae'r tywydd yn braf ac mae wedi bod allan drwy'r nos neithiwr i fyny ar y llinell. Nid oes modd gorffwyso rhyw lawer, hyd yn oed allan o'r ffosydd. Dywed Owen na dderbyniodd rhyw lawer o'r parsel yr oeddynt wedi ei anfon oherwydd bu'n rhaid iddo fynd i fyny'r llinell. Gadawyd sachau'r dynion yn y pentref a chollwyd popeth - raseli, bisgedi a nifer o bethau eraill. Dygodd y bataliynau eraill bopeth ond nid yw Owen yn poeni'n ormodol ynglŷn â'r peth oherwydd ei fod ef yn iawn ei hunan. Disgrifia sut bu'n rhaid iddo aros yn y ffosydd am ddiwrnodau, heb ddim i'w fwyta o amser brecwast hyd at y bore canlynol oherwydd fod yn rhaid iddo fynd i'r llinell flaen i ryddhau criw arall. Dywed wrth ei chwaer Lizzie eu bod wedi gweld llawer yn ystod y tair wythnos diwethaf a'u bod wedi dianc o drwch blewyn mwy nag unwaith ac y dylent fod yn ddiolchgar i Dduw am ofalu'u bod yn dod trwyddi. Diolcha i'w chwaer am yr emynau bychain mae wedi'u hanfon ac mae'n dymuno mynd i'r Capel gan ei fod yn y wlad. Mae'n gobeithio ei bod yn teimlo'n well a gofynna i'w dad ynglŷn â'r defaid a phrisiau gwlân. Mae Owen yn falch eu bod wedi casglu'r gwair a theimla fod Duw wedi bod yn dda iddynt. Gorffenna drwy anfon ei gofion gorau atynt.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw